Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Andy Phillips, Performance Specialist, Wales Audit Office John Weston, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Briff gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Argyfyngau Sifil yng Nghymru'
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Andy Phillips, Rheolwr Archwilio Perfformiad; a John Weston, Arbenigwyr Perfformiad.
2.2 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, ‘Argyfyngau Sifil yng Nghymru’.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2011-12.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 5 i 7
5. Ystyried y dewisiadau i ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Argyfyngau Sifil yng Nghymru'
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Argyfyngau Sifil yng Nghymru’ a chytunodd i gynnal ymchwiliad yn ystod tymor y gwanwyn 2013.
6. Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen - y prif themâu a'r materion sy'n dod i'r amlwg
6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif themâu a’r materion sy’n dod i’r amlwg yn ei ymchwiliad i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen mewn cyfarfod sydd ar y gweill.
7. Trafodaeth ar ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar raddfeydd ffioedd archwilio ac arolygu llywodraeth leol 2013-14
7.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ar raddfeydd ffioedd archwilio ac arolygu llywodraeth leol 2013-14.